Cyffes Ffydd Westminster

Tudalen deitl argraffiad o'r Gyffes o 1647

Cyffes ffydd Ddiwygiedig yw Cyffes Ffydd Westminster. Wedi'i llunio gan Gymanfa Westminster fel rhan o Safonau Westminster i fod yn gyffes i Eglwys Loegr, daeth yn safon isradd athrawiaeth Eglwys yr Alban ac mae'n parhau felly hyd heddiw. Mae wedi cael dylanwad mawr o fewn eglwysi Presbyteraidd ledled y byd.

Ym 1643, galwodd Senedd Lloegr ar "Ddiwynyddion hyddysg, duwiol a doeth" i gyfarfod yn Abaty Westminster er mwyn rhoi cyngor ar faterion addoliad, athrawiaeth, llywodraeth a disgyblaeth yn Eglwys Loegr. Cyffes Ffydd Westminster oedd ffrwyth eu cyfarfodydd dros gyfnod o bum mlynedd, yn ogystal â'r Catecism Mwyaf a'r Catecism Lleiaf. Am dros fwy na thair canrif, mae gwahanol eglwysi o gwmpas y byd wedi derbyn y gyffes a'r catecismau fel safonau eu hathrawiaeth, yn isradd i'r Beibl.

Addaswyd y Gyffes gan Gynulleidfawyr yn Lloegr i ffurfio Datganiad Savoy ym 1658, ac yn yr un modd, newidiodd Bedyddwyr Lloegr Ddatganiad Savoy ym 1689er mwyn cynhyrchu Ail Gyffes Llundain y Bedyddwyr 1689. Roedd Presbyteriaid, Cynulleidfawyr a Bedyddwyr Lloegr, ymhlith eraill, yn cael eu hadnabod fel Anghydffurfwyr gan nad oeddynt yn cydffurfio â Deddf Unffurfiaeth 1662, a sefydlodd Eglwys Loegr fel yr unig eglwys gyfreithlon, ond mewn sawl ffordd, unedig oeddynt i gyd oherwydd eu cyffesau cyffredin a luniwyd ar sail Cyffes Westminster.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search